Digwyddiadau

2023 ‘BEAT’ y Bannau


Digwyddiad codi arian – Dydd Sadwrn 30ain o Fedi

Mae’r mynediad ar gyfer yr Her Gerdded “BEAT y Bannau” (BEAT) wedi agor.

 

Diwrnod o her gerdded yn y mynyddoedd yw’r digwyddiad poblogaidd blynyddol yma, gyda dewis o lwybrau sydd yn amrywio mewn her, i godi arian ar gyfer tim Achub Mynydd Aberhonddu. Mae’n cychwyn ac yn gorffen ym mhentref hyfryd Talybont-ar-Wysg ac mae’n cynnig dewis o 3 lwybr i’r cyfranogwyr. Y llwybr mwyaf heriol yw’r ‘Endurance’ ac mae’n dilyn llwybr o 22 milltir gan gyrraedd y rhannau uchaf o’r Bannau, gan gynnwys yr eiconig Pen y Fan. Mae llwybr yr “Adventure” yn 15 milltir o hyd (gydag opswin o gael tywysydd gan aelodau o dim Achub Mynydd Aberhonddu eu hunain). Mae yna hefyd lwybr 10 milltir o hyd, sydd yn addas ar gyfer teuluoedd ar lwybrau isel, sydd wedi eu llunio ar gyfer cerddwyr llai profiadol a teuluoedd i’w mwynhau.

 

Mae BEAT yn rhan hanfodol o ddigwyddiadau blynyddol codi arian y tim. Gwasanaeth brys yw tim Achub Mynydd Bannau Brycheiniog sydd gyda 60 o wirfoddolwyr, sydd yn cael ei ariannu yn gyfan gwbwl gan roddion. Mae gwasanaethau timau achub mynydd am ddim i bawb sydd eu hangen, gan eu bod yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr. Er hynny, mae offer, cerbydau a chynnal pencadlys yn costio arian, ac mae rhaid i’r gwirfoddolwyr godi digon o arian i gynnal y gwasanaeth. Mae’n costio o gwmpas £55,000 y flwyddyn i gadw Tim Achub Mynydd Aberhonddu yn weithredol.

 

Am wybodaeth lawn o lwybrau’r BEAT gan gynnwys prisiau mynediad, ewch i:

www.beatthebeacons.com

(Gall gwn da ar denyn gymryd rhan) 


Pris Mynediad 2023

SAFONOL* ADERYN CYNNAR* AR Y DYDD
Yn cau 3 diwrnod cyn y digwyddiad Hyd at 22ain o Fai
Llwybr Endurance £40 £32 N/A
Llwybr Adventure £30 £24 40
Llwybr hwylus teuluol £25 (Gyda phlentyn dan 14 £5) £30 (Gyda phlentyn dan 14 £5) £30 (Gyda phlentyn dan 14 £5)
Llwybr Adventure gyda tywysydd £35 £27 N/A

Pris mynediad yn cynnwys 3 llwybr wedi eu cynllunio, gofal diogelwch llawn, bandiau garddwn ar gyfer cofrestru ym mhob man cyswllt, parcio am ddim, lluniaeth, cyfleusterau newid a chawod, gwasanaeth canlyniadau, medal a bag nwyddau.

 

Mae ein diolch i noddwr y digwyddiad LOWA

Share by: